Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Ionawr 2018
Amser:
09.03 -
10.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4521
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
David Carlin, Cefas Adam Cooper, Cyfoeth Naturiol Cymru Kins Leonard, Cefas John Wheadon, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Claire O'Sullivan (Cynghorydd Cyfreithiol) Chloe Corbyn (Ysgrifenyddiaeth) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· Cyngor Sir Ceredigion i ofyn am ei farn ynghylch y materion sy'n codi yn y ddeiseb a gofyn pa asesiad y mae wedi'i wneud ynghylch diogelwch plant sy'n defnyddio bysiau ysgol yn y lleoliad hwn; ac
· Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn, o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:
· BT i dynnu sylw at rwystredigaeth y deisebwyr a gofyn am eglurder ynghylch y cynlluniau a'r amserlenni ar gyfer cysylltu eiddo yn Llangenni â band eang; ac
· Arweinydd y Tŷ, i rannu'r pryderon y mae'r deisebwyr wedi'u mynegi.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:
· y cwestiynau a gyflwynwyd gan y deisebydd, gan gynnwys ynghylch yr ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli asbestos mewn ysgolion sydd ar y gweill yn gynnar yn 2018; ac
· ei bod yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymateb yn llawn i'r adroddiad arolwg cyflwr ysgolion.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl cyhoeddi'r papurau. Cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am ei ymateb i sylwadau'r deisebydd ac, wrth wneud hynny, mynegodd ei bryderon cryf nad oedd yr addewidion blaenorol i arwynebu'r ffordd wedi cael eu gwireddu.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i ofyn, o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa waith polisi a wnaed i ymchwilio i'r posibilrwydd o gryfhau'r gofynion presennol fel bod:
· plant sy'n teithio i'r ysgol ac o'r ysgol ar bob bws yn cael sedd a gwregys diogelwch;
· pob gyrrwr gael gwiriad DBS perthnasol;
· pob bws fod yn addas i'r diben.
Wrth wneud hynny, nododd yr Aelodau eu bod yn cydymdeimlo'n llwyr â'r ddeiseb ac yn rhannu'r uchelgais ar gyfer bysiau ysgol pwrpasol i blant ysgol, ond gan gydnabod nad yw gwireddu'r uchelgais polisi hwn o reidrwydd yn bosibl ar hyn o bryd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:
· o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw;
· am ragor o wybodaeth am sut y gellir cynnwys cymunedau yn yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd.
Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cadarnhad a gafwyd na fydd gwaith celf y cylch haearn yn mynd yn ei flaen. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno llongyfarch y deisebwyr am lwyddiant yr ymgyrch.
Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ateb hwnnw cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan RSPCA Cymru a chytunodd i wneud y canlynol:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i aros am farn y deisebydd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Datganodd David Rowlands y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Roedd wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr, a bydd yn mynd i gyfarfod a gynhelir yn y gwanwyn.
Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan CNC yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus sydd ar y gweill yn y gwanwyn 2018, yn arbennig mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch opsiynau cyllido posibl a'r astudiaeth ddichonoldeb sydd ar y gweill gyda Chyngor Caerffili.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Caerdydd a chytunodd i aros am farn y deisebydd, a gofynnodd iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn unrhyw drafodaethau uniongyrchol y bydd yn eu cael gyda Chyngor Caerdydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a yw'n bwriadu ymgymryd ag unrhyw waith craffu ar ôl deddfu ar y Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio Rhif 3) a Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2013 yn ystod y Cynulliad hwn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol nad ydynt ar hyn o bryd yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn, gan ofyn am fanylion eu polisïau cyfredol ac a ydynt wedi ystyried pa mor ymarferol yw cyflwyno sganio fel mater o drefn. Dywedodd y Pwyllgor hefyd y gallai ddymuno cau'r ddeiseb ar ôl cael yr ymatebion.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod disgwyl i'r lleoliad arfaethedig ar gyfer canolfan trawma difrifol newydd fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, gan annog y deisebydd i roi ei farn fel rhan o hyn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am y broses o wneud penderfyniadau y bydd yn ei dilyn mewn perthynas â gwerthu'r tir os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu carchar.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ganolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS).
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law mewn sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru: